Llunwyr Lluniau (The Picturemakers)

Casgliad o artistiaid yn gweithio ger Aberystwyth.

Croeso

Grwp o 13 o artistiaid gweledol yn byw yn ardal Aberystwyth yw'r Llunwyr Lluniau ('The Picturemakers'). Ar hyn o bryd mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyfleu ein hymateb i'n hamgylchedd cynefin. Y brif thema yw tirluniau, yn amrywio o'r cynrychioliadol i'r lled-haniaethol, gan ddefnyddio amryw gyfrwng megis olew, acrylig, dyfrlliw, pastel a phrint.

Defnyddiwch y dolenni ar y chwith i ymweld â'n Horielau - mawr obeithiwn y byddwch yn mwynhau ein gwaith.

Y Grŵp. Pwy 'di pwy? Am ychydig o hanes yr artistiaid, defnyddiwch eich cyrchydd ar yr enwau ar y chwith.

Lluniwyd y 'Picturemakers' oherwydd awydd rhai o fyfyrwyr cwrs Addysg Parhaol dan ofal Alistair Crawford yn Aberystwyth i hyrwyddo eu datblygiad personol fel artistiaid, a pharhau i ddysgu.

Mae'r grwp newydd hwn, a ffurfiwyd yn 2006, yn adlewyrchu rhychwant profiadau bywyd cyfranogion cyrsiau o'r math, sydd gan amlaf yn agored i bawb sydd a diddordeb yn y pwnc. Daethom at ein gilydd er mwyn i ni fel artistiaid unigol elwa o'r amryfalwch hyn drwy rannu profiadau, dysgu wrth ein gilydd, ac felly datblygu ein lleisiau personol.

Mae'r aelodau yn cynnal a chefnogi ei gilydd wrth drafod eu gwaith yn rheolaidd, mewn ysbryd o gariad a llawenydd, gan ddilyn disgyblaeth a gofynion artist profesiynol, sef creu arddangosfa, hel cynulleidfa, a chyfathrebu â'r sawl sy'n edrych ar ei luniau.

Y swyddogion

Newyddion

Mwy ...

Cywiriad olaf y safle: 18 Awst 2007: Lluniau newydd

Arddangosfeydd gan y Llunwyr Lluniau sydd arno ar hyn o bryd, neu yn fuan.

Barbara (Aberystwyth, Machynlleth), Harry (Machynlleth)

3—29 Medi 2007

Arddangosfa gyntaf Llunwyr Lluniau

Cynefin

Oriel Stryd y Brenin, Caerfyrddin

10:00 — 17:00, dydd Mawrth — dydd Sadwrn

Mwy ...