Cysylltwch a'r artist
Diolch am gymryd diddordeb yn ein gwaith. Petaech am brynu llun, neu am fwy o wybodaeth, mae 'na groeso i chi e-bostio yr artist. Bydd yr artist yn ymateb mor fuan a phosib. Neu medrwch e-bostio eich rhif ffon er mwyn i'r artist gysylltu â chi.
Y drefn arferol
- Mae'r prynwr a'r artist yn trafod y paentiad, gan gynnwys ffrâm a mownt (os bod angen), ei bacio a'i gludo.
- Mae'r prynwr a'r artist yn cytuno ar bris.
- Mae'r prynwr yn anfon siec i'r artist.
- Wedi derbyn y tâl, mae'r artist yn anfon y paentiad.
- Mawr obeithiwn y byddwch wrth eich bodd â'r paentiad. Os nad ydych, dychwelwch y paentiad i'r artist, gan dalu am gludiant; yna bydd yr artist yn ad-dalu eich arian, namyn cost cludiant.